Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(92)v4

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Comisiynydd Plant Cymru i lansio ymchwiliad newydd i gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

 

</AI2>

<AI3>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-Drefnu Addysg Uwch (30 munud)

</AI4>

<AI5>

4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb i adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys (30 munud)

</AI5>

<AI6>

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – Adroddiad Cynnydd Chwe Mis – gohiriwyd tan 13 Tachwedd (30 munud)

</AI6>

<AI7>

6. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Wyddoniaeth - gohiriwyd (30 munud)

</AI7>

<AI8>

7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl (15 munud) 

NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau’r Bil — Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-13 — Senedd y DU
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol




 

</AI8>

<AI9>

8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy'n ymwneud â'r Banc Buddsoddi Gwyrdd (15 munud) 

NDM5040 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Dogfennau Ategol

I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill documents — Enterprise and Regulatory Reform Bill 2012-13 — UK Parliament
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Y Pwyllgor Menter a Busnes
Adroddiad Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

 

</AI9>

<AI10>

9. Dadl ar Ymgynghoriad ar Bolisi Adfywio yn y Dyfodol (60 munud) 

NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.

Mae’r ymgynghoriad ar gael drwy fynd i’r ddolen ganlynol:

http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?lang=cy

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at Orllewin Cymru o gwbl.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig unrhyw dargedau y mae modd eu mesur.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru a’i seilwaith trafnidiaeth.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.

 

 

</AI10>

<AI11>

10. Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud) 

NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.

Mae copi o’r adroddiad ar gael yn:

http://www.equalityhumanrights.com/hafan/cymru/cyhoeddiadau-yng-nghymru/sicrhau-agenda-gydraddoldeb-a-hawliau-dynol-gref-adolygiad-cymru-2011-12

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.

 

 

</AI11>

<AI12>

Cyfnod Pleidleisio

The item started at

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>